Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith /

Climate Change, Environment and Infrastructure Committee

Datgarboneiddio'r sector tai preifat / Decarbonising the private housing sector

DH2P_20

Ymateb gan Cwmpas

 

Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith

A black background with white text  Description automatically generated with medium confidence

Amdanom ni

Asiantaeth ddatblygu yw Cwmpas sy’n gweithio i greu newid er gwell. 

Rydym yn gwmni cydweithredol sy’n canolbwyntio ar greu economi decach a gwyrddach a chymdeithas fwy cyfartal, lle mae pobl a’r blaned yn dod gyntaf. Nid yw’r system economaidd bresennol yn llwyddo i fynd i’r afael â’r heriau allweddol sy’n wynebu ein cymunedau heddiw, o’r newid yn yr hinsawdd i galedi economaidd. Does dim rhaid i bethau fod fel hyn.

Fe allai – ac fe ddylai – ein heconomi a’n cymdeithas weithio er budd pobl a’r blaned. Cenhadaeth Cwmpas, a sefydlwyd ym 1982 fel Canolfan Cydweithredol Cymru, yw newid y ffordd y mae ein heconomi a’n cymdeithas yn gweithio.

Datgarboneiddio tai: datgarboneiddio'r sector tai preifat

Yn yr ymateb hwn, hoffem ganolbwyntio ar fanteision sicrhau bod menter gymdeithasol yn chwarae rhan allweddol mewn ddatgarboneiddio’r sector tai preifat yng Nghymru. Mae mentrau cymdeithasol yn gweithredu ar egwyddorion y Llinell Driphlyg; pobl, planed, elw. Mae hyn yn sicrhau bod eu pwrpas cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd wrth wraidd eu gwaith. Mae gan lawer o mentrau cymdeithasol amcanion amgylcheddol, a mae nhw yn roi gweithio i wella'r ardal leol wrth galon eu nodau cymdeithasol. Mae hefyd yn werth nodi bod llawer o fentrau cymdeithasol wedi ymgorffori egwyddorion economi gylchol yn yr amcanion amgylcheddol hyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei hymrwymiad cyfreithiol i gyflawni allyriadau sero net erbyn 2050, gydag uchelgais i wneud hynny hyd yn oed yn gynt. Er mwyn cyflawni hyn bydd angen buddsoddiadau penodol i ddatgarboneiddio’r seilwaith presennol yng Nghymru, mewn meysydd fel tai a thrafnidiaeth.

Dylai polisïau Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â datgarboneiddio hyrwyddo menter gymdeithasol fel y model busnes o ddewis i sefydliadau sy’n gweithio ac sydd am weithio yn y maes hwn. Mae cyfle hefyd i ail-adeiladu cymunedau ac economïau lleol, trwy gynyddu mentrau cymdeithasol a  busnesau cymunedol a lleol gyda hyfforddiant a datblygu sgiliau mewn cymunedau lleol fel rhan o drawsnewidiad gwyrdd cyfiawn.

Mwyhau rôl y sector menter gymdeithasol mewn datgarboneiddio: Gwerth Cymdeithasol

Gall y Llywodraeth chwarae rhan allweddol wrth gefnogi datblygiad y sector hwn yng Nghymru drwy sicrhau bod arferion caffael ar gyfer datgarboneiddio tai cymdeithasol yn blaenoriaethu gwerth cymdeithasol i’r un graddau â chost economaidd. Byddai hwyluso’r cyfleoedd i fentrau cymdeithasol gynyddu a chyflawni’r contractau hyn yn hybu eu gallu i chwarae rhan allweddol wrth ddatgarboneiddio’r sector tai preifat. Byddem hefyd yn croesawu archwiliad pellach o rôl y Llywodraeth o ran meithrin y farchnad i fanteisio ar y buddsoddiad sylweddol hwn. Amlygodd ein hadroddiad Mapio Mentrau Cymdeithasol 2020/21 bod llawer o fentrau cymdeithasol yn eisiau masnachu mwy â’r sector cyhoeddus ond nad oes ganddynt y wybodaeth, y gallu na’r sgiliau i wneud hynny.

Fodd bynnag, rydym wedi gweld enghreifftiau ledled Cymru o fentrau cymdeithasol yn camu i fyny i ddarparu atebion arloesol i heriau cymdeithasol ac amgylcheddol mewn ffyrdd cynaliadwy.

Astudiaeth Achos

Creu Menter yw enw menter gymdeithasol yng Nghonwy. Mae’n is-gwmni i Cartrefi Conwy, a dechreuodd fasnachu yn 2015 gan dyfu’n gyflym yn gontractwr cymdeithasol o ddewis yng Ngogledd Cymru. Mae’n adeiladu tai sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd gan ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy ac mae’n dod o hyd i ffyrdd arloesol o leihau ei hôl-troed carbon, fel cael 80 y cant o’r pren o Gymru ac adeiladu ei fframiau ar y safle. Yn ogystal â’i chenhadaeth amgylcheddol, mae gan y fenter genhadaeth gymdeithasol i greu swyddi llawn amser sy’n talu’n dda yn y gymuned leol. Mae wedi sefydlu Academi Creu Dyfodol er mwyn helpu pobl leol i ddod o hyd i hyfforddiant, gwaith gwirfoddol, a chyfleoedd cyflogaeth. Ym mis Tachwedd 2020, cafodd y fenter ei henwi yn y Cwmni sydd wedi Tyfu’n Fwyaf Cyflym yng Nghymru. Mae’r tîm yn enghraifft berffaith o sut gall menter gymdeithasol gyflawni ei thair uchelgais: llwyddiant busnes, cynaliadwyedd amgylcheddol, a helpu pobl.